Ynghylch MI5

Y Gwasanaeth Diogelwch, neu'n fwy cyffredin MI5, yw asiantaeth wybodaeth ddiogelwch y Deyrnas Unedig. Fe'i lleolir yn Thames House, Llundain. Prif Gyfarwyddwr y Gwasanaeth Diogelwch yw Jonathan Evans.

Cyfrifoldebau

Rydym yn gyfrifol am amddiffyn y wlad rhag bygythiadau i ddiogelwch gwladol a drefnir yn gudd. Yn eu plith mae terfysgaeth, ysbïo ac amlhau arfau distryw mawr. Hefyd, rydym yn darparu cyngor am ddiogelwch i amryw o sefydliadau eraill, gan eu helpu i fod yn llai agored i'r bygythiadau.

Nodau

Dyma ein nodau:

  • llesteirio terfysgaeth;
  • rhwystro difrod i'r Deyrnas Unedig o du ysbïo tramor a gweithgarwch cudd arall gan wladwriaethau tramor;
  • llesteirio gwledydd rhag caffael deunyddiau, technoleg neu arbenigedd yn gysylltiedig ag arfau distryw mawr;
  • bod ar ein gwyliadwriaeth am fathau newydd o fygythiad, neu fygythiad sy'n ailymddangos;
  • amddiffyn gwybodaeth ac asedau sensitif y Llywodraeth, a'r Seilwaith Cenedlaethol Hanfodol (CNI);
  • gostwng troseddau difrifol trwy roi cymorth i asiantaethau sy'n gorfodi'r gyfraith;
  • cynorthwyo'r Gwasanaeth Gwybodaeth Gyfrinachol (SIS) a Phencadlys Cyfathrebu y Llywodraeth (GCHQ) wrth iddynt gyflawni eu swyddogaethau statudol;
  • adeiladu gallu a gwytnwch o fewn y Gwasanaeth.

Datganiad o Bwrpas a Gwerthoedd

Er mwyn amddiffyn diogelwch gwladol a lles economaidd, a chefnogi'r asiantaethau sy'n gorfodi'r gyfraith wrth iddynt atal a chanfod troseddau difrifol, byddwn yn casglu a lledaenu gwybodaeth; yn ymchwilio ac asesu bygythiadau a gweithio gydag eraill i'w rhwystro; rhoi cyngor ynghylch gwarchodaeth; a darparu cefnogaeth effeithiol ar gyfer y tasgau hynny.

Wrth weithio i gyflawni ein pwrpas, fe gawn ein harwain gan ymrwymiad i:

  • gyfreithlondeb;
  • uniondeb;
  • gwrthrychedd;
  • synnwyr o gyfrannedd am ein gwaith; a
  • pharch ac ystyriaeth tuag at ein gilydd a'r rhai y byddwn yn gweithio â nhw y tu allan i'r Gwasanaeth.