![]()
Os oes gennych wybodaeth frys am fygythiad i fywyd neu eiddo, cysylltwch â'r heddlu ar 999 neu Linell Frys Gwrthfrawychiaeth yr heddlu ar 0800 789 321
Rydym yn gyfrifol am amddiffyn rhag bygthiadau i ddiogelwch gwladol, fel brawychiaeth. Os gwyddoch chi rywbeth am fygythiad i ddiogelwch gwladol, rydym yn awyddus i glywed gennych.
A oes gennych chi wybodaeth a allai fod o werth i'n gwaith, yn eich barn chi? Allai'r wybodaeth wneud gwahaniaeth o ran cadw'r gymuned yn ddiogel? Os oes, ysgrifennwch atom yn y bocs isod. Fe fyddai'n ddefnyddiol pe gallech chi egluro sut cawsoch y wybodaeth. Bydd eich gwybodaeth ac unrhyw fanylion personol a roddwch yn cael eu trin yn gyfrinachol - darllenwch ein Polisi ar Breifatrwydd (yn Saesneg).
Bydd eich neges yn cael ei hanfon dros gyswllt Rhyngrwyd diogel*. Gallwch ddewis bod yn ddienw, ond mae'n bosib y byddwch yn dymuno cynnwys manylion cysylltu er mwyn i ni allu cysylltu â chi petai raid.
Ar ôl anfon eich neges, fe welwch chi neges gydnabod ar y sgrîn. Byddwn yn ystyried pob neges yn ofalus, ond allwn ni ddim addo ymateb i bob un.
Teipiwch eich neges (dim mwy na 300 gair) yn y bocs isod ac yna clicio "anfon".
Neu fe allwch chi ysgrifennu at y cyfeiriad isod:
Y Ddesg Ymholiadau
Blwch Post 3255
Llundain SW1P 1AE
Byddwn yn trin pob gohebiaeth yn gyfrinachol.
Diolch am gysylltu â ni.
* Bydd eich neges yn cael ei hanfon trwy Secure Socket Layer (SSL), sef protocol a ddefnyddir i gyfathrebu'n ddiogel dros y Rhyngrwyd. Mae cyfeiriadau gwe sy'n dechrau gydag "https" yn dangos y bydd cysylltiad SSL yn cael ei ddefnyddio.