![]()
Mae Deddf Gwasanaeth Diogelwch 1989 yn ein gosod dan awdurdod yr Ysgrifennydd Gwladol, sef yr Ysgrifennydd Cartref yn ymarferol, sy'n ateb yn y Senedd dros y Gwasanaeth.
Mae'r Ddeddf yn disgrifio swyddogaethau'r Gwasanaeth ac yn rhoi enghreifftiau o natur a hyd a lled y bygythiadau rydym yn gyfrifol am eu hatal. I grynhoi, dyma ein swyddogaethau:
Mewn democratiaeth, rhaid i wasanaeth diogelwch domestig fod yn anwleidyddol. Mae'r Ddeddf hefyd yn disgrifio cyfrifoldebau'r Prif Gyfarwyddwr yn ôl y gyfraith dros sicrhau nad yw'r Gwasanaeth yn gweithredu i hybu buddiannau unrhyw blaid wleidyddol. Ei swyddogaeth yw amddiffyn democratiaeth, nid dylanwadu ar ei chwrs. Ni all llywodraeth y dydd orchymyn y Gwasanaeth i gyflawni unrhyw weithred am resymau gwleidyddiaeth plaid