Goruchwylio a Deddfwriaeth

Mae gwaith y Gwasanaeth yn cael ei oruchwylio mewn tair ffordd wahanol:

Mae'r dulliau goruchwylio yn deillio o'r tri darn o ddeddfwriaeth allweddol hyn:

  • Deddf Gwasanaeth Diogelwch 1989 a'r newidiad yn 1996, sy'n gosod y Gwasanaeth dan awdurdod yr Ysgrifennydd Cartref ac sy'n disgrifio swyddogaethau'r Gwasanaeth a chyfrifoldebau'r Prif Gyfarwyddwr;

  • Deddf Gwasanaethau Cudd-ymchwil 1994 (ISA) a sefydlodd y Pwyllgor Gwybodaeth a Diogelwch (ISC), sef pwyllgor o Seneddwyr sy'n cynrychioli dau Dy'r Senedd. Ymddiriedir i'r pwyllgor oruchwylio gwariant, gweinyddiaeth a pholisi'r tair asiantaeth ddiogelwch a gwybodaeth (sef y ni, y Gwasanaeth Gwybodaeth Gyfrinachol a Phencadlys Cyfathrebu y Llywodraeth);

  • Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwiliol 2000 (RIPA) a sefydlodd Gomisiynydd dros Ryng-gipio, Comisiynydd y Gwasanaethau Gwybodaeth a Thribiwnlys Pwerau Ymchwilio i archwilio cwynion a gwrando gweithrediadau dan adran 7 Deddf Iawnderau Dynol 1998.

Trwy ISA a RIPA mae darpariaeth i'r Ysgrifennydd Gwladol gyflwyno gwarantau i ryng-gipio cyfathrebiadau, ymyrryd ag eiddo a chynnal gwyliadwriaeth ymwthgar, er enghraifft trwy glustfeinio yn eiddo'r targed.

Mae RIPA hefyd yn darparu ar gyfer cyflwyno awdurdodau mewnol ar gyfer gwyliadwriaeth dan gyfarwyddyd, er enghraifft dilyn symudiadau unigolyn sy'n destun ymchwiliad, a defnyddio cudd-swyddogion - cyfeirir at hyn yn y Ddeddf fel "ffynonellau dynol o wybodaeth gudd".