![]()
Mae yna lawer o fythau a chamddealltwriaeth ynghylch y Gwasanaeth Diogelwch a'i waith. Mae'r dudalen hon yn ymateb i rai o'r camsyniadau mwyaf cyffredin.
Rydym yn sefydliad sifil a does gan aelodau'r staff ddim pwerau gweithredol, er enghraifft awdurdod i gadw neu arestio pobl. Nid ydym yn "heddlu cudd".
Byddwn yn rhannu ein hymchwiliadau gyda'r heddlu neu asiantaethau eraill sy'n gorfodi'r gyfraith pan fydd gobaith arestio pobl sy'n cyflawni neu'n cynllunio troseddau. Dros nifer o flynyddoedd rydym wedi datblygu a defnyddio gweithdrefnau fel y gellir derbyn gwybodaeth gennym yn dystiolaeth mewn achosion troseddol. Hefyd, gallwn argymell i'r Swyddfa Gartref neu'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad y dylid gwrthod hawl i frawychwyr hysbys neu swyddogion gwybodaeth tramor, er enghraifft, ddod i'r Deyrnas Unedig neu y dylid eu hanfon o'r wlad neu eu halltudio. Ond, y tu allan i'r Gwasanaeth y penderfynir a ddylid gwneud hynny ai peidio.
2. Dim ond yn y Deyrnas Unedig y mae MI5 yn gweithio
Weithiau bydd adroddiadau yn y cyfryngau yn ddryslyd ynghylch hyd a lled ein gwaith yn ddaearyddol. Bydd bygythiadau i ddiogelwch gwladol yn aml yn dod o dramor, er enghraifft o wasanaethau gwybodaeth dramor neu oddi wrth grwpiau brawychol dramor. Hefyd, mae diogelwch gwladol yn ymestyn y tu hwnt i Ynysoedd Prydain a gall gynnwys amddiffyn buddiannau Prydain ledled y byd, e.e. safleoedd a staff diplomyddol, cwmnïau a buddsoddiadau Prydeinig a dinasyddion Prydeinig sy'n byw neu'n teithio dramor. Mae bygythiadau i ddiogelwch buddiannau Prydain unrhyw le yn y byd yn dod dan adain ein swyddogaethau fel y'u disgrifir yn Neddf Gwasanaeth Diogelwch 1989.
Wrth ddelio â bygythiadau diogelwch dramor fe fyddwn yn cydweithio'n agos â'r Gwasanaeth Gwybodaeth Gyfrinachol (SIS) a Phencadlys Cyfathrebu y Llywodraeth (GCHQ), sy'n gyfrifol am gasglu gwybodaeth dramor, ac â'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad. Fe fyddwn hefyd yn cydweithio â heddluoedd ac asiantaethau gwybodaeth tramor.
3. Bydd MI5 yn cyflawni llofruddiaethau
Honnir o bryd i'w gilydd i ni fod yn gyfrifol am lofruddio unigolion am eu bod yn "anghyfleus" mewn rhyw ffordd. Ni fyddwn yn lladd pobl nac yn trefnu eu llofruddio chwaith. Rydym yn ddarostyngedig i reolaeth y gyfraith yn yr un ffordd â chyrff cyhoeddus eraill.
4. Bydd MI5 yn "archwilio cefndir" Gweinidogion ac Aelodau Seneddol
Ni fyddwn yn archwilio cefndir Gweinidogion ac Aelodau Seneddol. Yr unig adeg y bydd Prif Weinidog newydd yn cael gwybod am unrhyw wybodaeth sydd gennym am ddarpar aelod o'r Cabinet newydd yw os yw'r wybodaeth honno'n ddifrifol yng nghyd-destun diogelwch gwladol a'i bod yn ymddangos yn debygol y bydd ar yr unigolyn dan sylw angen mynediad at wybodaeth sensitif. Bu hyn yn wybodaeth gyhoeddus er 1973, pan gyfeiriwyd ato yn Adroddiad y Comisiwn Diogelwch ar helynt Jellicoe-Lambton. Yn ei adroddiad yn 1997/98 cyfeiria'r Pwyllgor Gwybodaeth a Diogelwch (ISC) at y ffaith fod Arweinydd yr Wrthblaid hefyd er 1992 wedi bod yn cael ei hysbysu am unrhyw fater diogelwch difrifol yn gysylltiedig â darpar aelod o Gabinet yr Wrthblaid. Mae'r niferoedd dan sylw yn fach iawn.
5. Bydd MI5 yn monitro bywydau preifat Gweinidogion a ffigurau cyhoeddus eraill
Weithiau fe honnir ein bod yn gyfrifol am fonitro bywydau preifat pobl oherwydd eu bod yn bobl amlwg mewn bywyd cyhoeddus, gan gynnwys aelodau'r Teulu Brenhinol, Gweinidogion y Llywodraeth ac Aelodau Seneddol. Nid yw hyn yn wir. Ni fyddwn ond yn ymchwilio i unigolion y daw eu gweithgareddau o fewn ein cylch gwaith statudol dan y Ddeddf Gwasanaeth Diogelwch.
6. Bydd MI5 yn "archwilio cefndir" holl weithwyr cyflogedig y llywodraeth
Mae ein swyddogaeth yn archwilio cefndir ymgeiswyr ar gyfer swyddi sensitif yn y llywodraeth yn seiliedig ar archwilio ein cofnodion yn unig a, ble bo'n briodol, gyda gwasanaethau cyswllt dramor. Mater i'r Adran dan sylw yw'r penderfyniadau ynghylch cyflogi staff ac ni fyddwn yn ymchwilio nac yn cyfweld ymgeiswyr ar eu rhan.
Mae Deddf Gwasanaeth Diogelwch 1989 yn amodi na allwn ond dadlennu gwybodaeth i'w defnyddio i benderfynu a ddylid cyflogi rhywun i wneud gwaith sensitif os gwnawn hynny'n unol â threfniadau a gymeradwyir gan yr Ysgrifennydd Cartref. Ar ôl archwilio, os byddwn yn gweld bod gennym gofnod diogelwch sylweddol a pherthnasol ynghylch ymgeisydd, gallwn ddarparu asesiad o'r wybodaeth ddiogelwch ar ffurf crynodeb. Ond, nid yw'r ffaith fod cofnod yn bodoli gan y Gwasanaeth Diogelwch yn golygu o anghenraid y bydd asesiad yn cael ei gynnal. Nid oes "rhestr wahardd".
7. Bydd MI5 yn ymchwilio i "ddatgelu cyfrinachau" yn Whitehall
Ni fyddwn yn ymchwilio i achosion o ddatgelu gwybodaeth yn y Llywodraeth, ac eithrio ble gallai hynny effeithio ar ddiogelwch gwladol. Fel rhan o'n swyddogaeth yn gwarchod diogelwch, fe fyddwn yn rhoi cyngor i'r Llywodraeth ynghylch polisïau ac arferion diogelwch a bydd ein Canolfan Gynghori ar Ddiogelwch Gwladol yn archwilio trefniadau diogelwch o fewn Adrannau eraill ar eu cais. Ond nid oes gennym swyddogaeth "blismona".
8. Bydd MI5 yn ymchwilio i undebau llafur a charfanau pwyso
Bu mwy nag un honiad ein bod, yn y gorffennol, wedi mynd ati'n systematig i ymchwilio i undebau llafur ac amryfal garfanau pwyso, fel Undeb Cenedlaethol y Glowyr a'r Ymgyrch Ddiarfogi Niwclear.
Nid ydym erioed wedi ymchwilio i bobl yn syml oherwydd eu bod yn aelodau neu'n dal swyddi mewn undebau llafur neu sefydliadau ymgyrchu. Ond yn y gorffennol mae grwpiau tanseiliol wedi ceisio ymdreiddio i sefydliadau o'r fath a dylanwadu arnynt fel ffordd o gael dylanwad gwleidyddol.
Er mwyn bodloni ein cyfrifoldeb dros warchod diogelwch gwladol, rydym o'r herwydd wedi ymchwilio i aelodau unigol o sefydliadau bona fide ble'r oedd sail dros gredu eu bod yn gweithredu "gyda'r bwriad o ddymchwel neu danseilio democratiaeth seneddol trwy ddulliau gwleidyddol, diwydiannol neu dreisgar". Buom yn ymchwilio i weithgareddau'r grwpiau tanseiliol, ond nid y sefydliadau roeddynt yn ceisio ymdreiddio iddynt. Cynhaliwyd unrhyw ymchwiliadau yn y gorffennol o fewn y deddfau a'r prosesau a gytunwyd gan y Senedd ar y pryd.
Pan drafodwyd Mesur y Gwasanaeth Diogelwch yn y Senedd yn 1988, bu'r Ysgrifennydd Cartref ar y pryd, Douglas Hurd, yn amlinellu'r sail ar gyfer gwaith y Gwasanaeth yn y maes hwn:
"Nid yw o bwys os... oes gan bobl farn am strwythur neu drefn y Senedd neu os ydynt yn ymwneud â cheisio newid arferion diwydiannol yn y wlad hon neu drafod gwell bargen os ydynt yn aelodau o undebau llafur, neu os byddant yn ceisio herio neu newid polisïau'r Llywodraeth yn ymwneud ag amddiffyn, polisi tramor neu unrhyw beth arall... Ei unig faen prawf (y Gwasanaeth) mewn perthynas â bygythiad tanseiliol yw a oes bwriad bwriadol i danseilio democratiaeth seneddol ac a yw hynny'n cynrychioli gwir fygythiad i ddiogelwch y genedl."
Bellach mae'r bygythiad tanseiliol i ddemocratiaeth seneddol yn y DU yn fach iawn ac nid oes gennym unrhyw ymchwiliadau ar y gweill ar hyn o bryd.
9. Bydd MI5 yn tapio sgyrsiau ffôn a chlustfeinio yn anghyfreithlon
Ni fyddwn yn tapio ffonau nac yn gosod offer clustfeinio'n anghyfreithlon. Wrth gynnal ymgyrchoedd o'r fath fe fyddwn yn cydymffurfio'n llawn â darpariaethau Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwiliol 2000 (RIPA). Petai ymgyrch glustfeinio hefyd yn golygu mynd i mewn i eiddo neu ymyrryd ag eiddo, rhaid cael gwarant ar wahân dan Ddeddf Gwasanaethau Cudd-ymchwil 1994.
10. Mae gan MI5 fynediad at bob cyfrifiadur swyddogol
Nid oes gennym fynediad at systemau cyfrifiadurol adrannau eraill y llywodraeth. Os bydd gennym ofyniad cyfreithlon am wybodaeth gan adrannau eraill, byddwn yn gofyn am y wybodaeth honno'n ffurfiol ac yn unigol.
11. Bydd MI5 yn ysbïo ar Foslemiaid ac aflonyddu arnynt
Nid yw hyn yn wir. Does gennym ni ddim diddordeb mewn mudiadau gwleidyddol neu grefyddol di-drais ac ni fyddwn yn ymchwilio i unrhyw unigolion ar sail eu cred, lliw, cenedl neu grefydd.
Rhwystro'r bygythiad o du brawychwyr rhyngwladol, gan gynnwys y rhai sy'n honni eu bod yn gweithredu dros Islam, yw prif flaenoriaeth y Gwasanaeth Diogelwch. Ymosododd brawychwyr rhyngwladol ar dargedau Prydeinig yn Istanbul ym mis Tachwedd 2003 a gwyddom fod Al Qaida a rhwydweithiau cyswllt yn ystyried a chynllunio ymosodiadau yn y Deyrnas Unedig. Mae brawychwyr rhyngwladol yn y wlad hon yn ein bygwth yn uniongyrchol trwy drais ac yn anuniongyrchol trwy gefnogi trais dramor.
Yn aml fe fydd Moslemiaid yn dioddef yn sgil y trais hwn - mae'r gyfres o ymosodiadau brawychol yn Casablanca ym mis Mai 2003 a Riyadh ym mis Mai a mis Tachwedd 2003 yn dangos hyn.
Mae'r Gwasanaeth hefyd yn cyflogi staff o bob crefydd, gan gynnwys Moslemiaid. Rydym wedi ymrwymo i recriwtio amrywiaeth eang o staff o bob cefndir er mwyn gallu elwa ar eu gwahanol agweddau a phrofiad.
12. Bu MI5 yn cynllwynio i danseilio Harold Wilson
Yn ei lyfr "Spycatcher", fe honnodd y cyn swyddog gyda'r Gwasanaeth Diogelwch, Peter Wright, fod hyd at 30 aelod o'r Gwasanaeth wedi cynllwynio i danseilio'r cyn Brif Weinidog, Harold Wilson. Ymchwiliwyd yn drylwyr i'r honiad hwn a daethpwyd i'r casgliad, fel y nodwyd yn gyhoeddus gan Weinidogion, nad oedd cynllwyn o'r fath erioed wedi bodoli. Yn y diwedd, fe gyfaddefodd Wright ei hun mewn cyfweliad ar raglen "Panorama" BBC1 yn 1988 fod ei ddisgrifiad wedi bod yn annibynadwy.
13. Roedd Pennaeth MI5 yn y 1960au yn ysbïwr Rwsiaidd
Honnwyd bod Syr Roger Hollis, a oedd yn Brif Gyfarwyddwr y Gwasanaeth Diogelwch rhwng 1956-1965, yn ysbïwr Rwsiaidd. Yn dilyn ymchwiliad Trend yn 1974 fe gafodd Hollis ei ddyfarnu'n ddieuog o'r cyhuddiad hwnnw. Ar ôl hynny, cadarnhawyd hyn gan dystiolaeth cyn swyddog gyda'r KGB, Oleg Gordievsky.
14. Dim ond rhai mathau o unigolion y bydd MI5 yn eu recriwtio
Mae'r Gwasanaeth yn gyflogwr cyfle cyfartal ac mae ein staff yn dod fwyfwy o amrywiaeth o wahanol gefndiroedd a diwylliannau, gan adlewyrchu cymunedau'r Deyrnas Unedig rydym yn eu gwasanaethu.
Mae rhaniad 50:50 bron o ddynion a menywod yn y Gwasanaeth ac mae 53% o'r staff dan 30 oed. Ar hyn o bryd dim ond 4.8% o'n staff sy'n dod o gefndir lleiafrif ethnig, ond rydym wedi ymrwymo i wella hyn ac rydym yn gwneud cynnydd.
Mae yna Fforwm Cyfle Cyfartal yn y Gwasanaeth hefyd a Gweithgor Cyfeillgar i Deuluoedd.
Mae ein gwefan recriwtio yn herio rhai o'r tybiaethau cyffredinol sy'n cael eu gwneud ynghylch gweithio i'r Gwasanaeth Diogelwch.
15. Ni fydd MI5 yn recriwtio pobl dal
Yn groes i adroddiadau yn y cyfryngau, nid pobl dan 5' 11" yw'r unig rai sy'n cael eu recriwtio gennym. Mae yna gyfyngiad ar daldra ar gyfer ein hymgyrch recriwtio gwyliadwriaeth symudol, ond does dim cyfyngiadau o'r fath ar gyfer unrhyw rai o'r ymgyrchoedd eraill. Gallwch fod yn dal a gweithio i'r Gwasanaeth Diogelwch!
16. Mae staff MI5 yn cael eu hatal rhag dweud unrhyw beth am y Gwasanaeth
Mae ein haelodau a chyn aelodau yn cael eu hatal gan Adran 1 Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989 rhag dadlennu gwybodaeth, heb ganiatâd cyfreithlon, yn gysylltiedig â diogelwch neu wybodaeth a ddaeth i'w meddiant tra oeddynt yn y Gwasanaeth.
Yn amlwg mae'n bwysig fod gwybodaeth am ddiogelwch a chudd-wybodaeth yn cael eu gwarchod rhag cael eu dadlennu heb ganiatâd, rhag niweidio ein ffynonellau, ein hymgyrchoedd a'n dulliau. Ond fe fydd Adran 1 yn cael ei beirniadu weithiau am wahardd dadlennu pethau mor ddibwys â lliw'r carpedi yn Thames House er enghraifft (lliw glas!) a'r fwydlen ym mwyty'r staff. Mae'r beirniadaethau hyn yn gamarweiniol. Nid yw materion o'r fath yn dod dan rychwant Adran 1.
17. Mae MI5 yn helpu brawychwyr trwy gyhoeddi gwybodaeth gyfrinachol ar ei wefan.
Buom yn ofalus iawn wrth ddewis y wybodaeth sy'n cael ei chyhoeddi ar ein gwefan. Yn amlwg, nid ydym yn cyhoeddi unrhyw ddeunydd a allai beryglu diogelwch gwladol, yr ydym yn gweithio i'w amddiffyn. Mae'r holl wybodaeth ar y wefan hon yn wybodaeth nad yw'n gyfrinachol ac ni fydd yn rhoi unrhyw wybodaeth newydd o gwbl i frawychwyr.
Ar y cyfan, mae'n rhaid i fanylion ein hymgyrchoedd barhau'n gyfrinachol, ac felly y dylent fod. Ond un rhan yn unig o'n holl amddiffynfeydd rhag brawychiaeth yw atal brawychwyr. Rhan hanfodol arall o'n gwaith yw defnyddio'r wybodaeth unigryw sydd gennym am y bygythiad o du brawychwyr i roi cyngor ymarferol ac awdurdodol ynghylch y ffordd orau o warchod rhag hynny. Yn draddodiadol, fe gâi ein cyngor ei gyfyngu'n bennaf i'r Llywodraeth, ond mae bygythiad brawychiaeth ryngwladol heddiw yn golygu ei bod hi'n bwysig i ni ymestyn y cyngor hwn i amrediad ehangach o bobl, a'r ffordd fwyaf effeithiol i ni wneud hynny yw dros y we.
![]()