Pwy Ydyn Ni a'r Hyn Rydym yn ei Wneud

Y Gwasanaeth Diogelwch, a elwir yn aml yn MI5, yw asiantaeth wybodaeth ddiogelwch gwladol y Deyrnas Unedig.

Er 1909 buom yn gyfrifol am atal bygythiadau i ddiogelwch gwladol a drefnir yn gudd. Rydym yn rhoi cyngor am ddiogelwch i amryw o sefydliadau eraill hefyd, gan eu cynorthwyo i fod yn llai agored i'r bygythiadau.

Mae ein 3,000 aelod o staff, dan arweiniad y Prif Gyfarwyddwr Jonathan Evans, wedi'u lleoli yn bennaf yn ein pencadlys yn Thames House yn Llundain. Y mae gennym chwe swyddfa ranbarthol ledled y Deyrnas Unedig hefyd. Mae'r Gwasanaeth wedi'i rannu yn chwe changen, pob un gyda maes cyfrifoldeb penodol, sy'n gweithio i atal amryfal fygythiadau gan gynnwys terfysgaeth, ysbïo ac amlhau arfau distryw mawr.

Mae'r Gwasanaeth Diogelwch yn gyfrifol am "amddiffyn y DU rhag bygythiadau i ddiogelwch gwladol yn sgil ysbïo, terfysgaeth a difrod, yn sgil gweithgareddau cudd-swyddogion pwerau tramor, ac yn sgil gweithredoedd a fwriedir i ddisodli neu danseilio democratiaeth seneddol trwy ddulliau gwleidyddol, diwydiannol neu dreisgar."

Hefyd, rydym yn rhoi cyngor am ddiogelwch i amryw o sefydliadau eraill yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, ac yn gweithio yn erbyn amlhau arfau distryw mawr. Rydym wedi cyfrannu hefyd at y frwydr yn erbyn trosedd difrifol, er nad ydym yn gweithio yn y maes hwn ar hyn o bryd.

Mae rôl y Gwasanaeth Diogelwch yn cael ei diffinio trwy gyfraith yn Neddf Gwasanaeth Diogelwch 1989. Gweler Sail Statudol i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae'r gyfraith yn ei ddweud am swyddogaethau'r Gwasanaeth Diogelwch a'i berthynas gyda'r Llywodraeth.