PWY YDYM NI

MI5 yw gwasanaeth cudd-ymchwil cenedlaethol y Deyrnas Unedig. Rydym wedi gweithio ers dros ganrif i amddiffyn y wlad rhag bygythiadau i ddiogelwch cenedlaethol.


BYGYTHIADAU I DDIOGELWCH CENEDLAETHOL

Nid yw deddfau Ewropeaidd neu Brydeinig yn rhoi diffiniad penodol i ddiogelwch cenedlaethol, ond caiff ei ddehongli fel diogelwch a lles y DU yn gyffredinol. Fel yma, mae ‘cenedl’ yn cyfeirio at ddinasyddion y DU ble bynnag y maent, nid yn unig yr ystyr daearyddol.

Y prif fygythiadau i ddiogelwch cenedlaethol yw:

Terfysgaeth

Un o’r bygythiadau mwyaf difrifol a parhaol sy’n gwynebu’r DU a’i chysylltiadau tramor yw’r bygythiad gan derfysgwyr. Mae terfysgwyr yn defnyddio trais neu fygythiad trais i dynnu sylw at eu hachosion, i hybu eu dilynwyr ac i frawychu pobl sydd ddim yn cydymdeimlo â nhw.

Ysbïwriaeth

Mae ysbïwriaeth (neu ‘sbïo’) yn fygythiad parhaol i’r DU. Yn y gorfennol, cyfeiriwyd ysbïwriaeth yn erbyn cymdeithasau llywodraethol er mwyn cipio gwybodaeth wleidyddol a milwrol. Heddiw, mae ysbïwyr hefyd yn targedu cymdeithasau masnachol am eu hymchwil a’u gwybodaeth ynglŷn â’u dulliau a’u technolegau.

Bygythiadau seiber

Mae amrywiaeth o daleithiau estron, troseddwyr, grŵpiau ‘hacktivist’ a therfysgwyr yn targedu’r DU yn y rhithfro (‘cyberspace’) trwy ysbïo a gwneud ymosodiadau niweidol ar rwydweithiau cyfrifiadurol.

Arfau Dinistr Eang

Mae arfau dinistr eang (ADE), gan gynnwys arfau niwclear, biolegol a chemegol, yn gosod bygythiad posibl i ddiogelwch y DU. Mae’r DU yn ymroddedig i rwystro lledaeniad ADE ac mae MI5 yn chwarae rôl i wrthwynebu’r bygythiad yma.


EIN GWAITH

Mae MI5 yn gweithio’n agos gydag asiantaethau cudd-ymchwil eraill y DU – SIS a GCHQ – a gydag asiantaethau deddforfodaeth i archwilio a difetha’r bygythiadau amrywiol.

Rydym yn gweithio o fewn fframwaith cyfreithiol llym ac yn atebol i archwiliad manwl gan yr Ysgrifennydd Gwladol, sy’n arwyddo gwarantau am ein gweithgareddau mwyaf ymwthiol, gan y Senedd a gan gomisiynwyr annibynnol. Mae hyn yn sicrhau bod ein gweithgareddau yn gyfreithlon a dim ond yn cael eu cyflawni ar adegau pan mae’n angenrheidiol ac yn gymesur.

Casglu cudd-wybodaeth

Prif amcan gwaith MI5 yw casglu cudd-wybodaeth. Gall gwybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus fod yn ddefnyddiol, ond y ffordd orau i ddarganfod mwy am y cymdeithasau ac unigolion sy’n gosod bygythiad i ddiogelwch cenedlaethol yw i gael gwybodaeth gyfrinachol amdanynt. Rydym yn defnyddio’r cudd-wybodaeth yma i geisio adeiladu delwedd fanwl o’u gweithgareddau, amcanion, cynlluniau a’u galluon.

Caiff cudd-wybodaeth ei gasglu trwy nifer o ddulliau. Y prif dechnegau yw:

  • Ffynhonellau cuddedig dynol, neu ‘asiantiaid’. Asiant yw unrhyw berson sy’n medru darparu adroddiadau cyfrinachol am darged ymchwiliad. Nid yw asiantiaid yn gyflogedig gan MI5.
  • Gwyliadwraeth gyfeiriedig, sef dilyn ac/neu gwylio pobl ddrwgdybiedig.
  • Clustfeinio ar gyfathrebiadau, megis gwrando ar alwadau ffôn neu darllen negeseuon e-bost.
  • Gwyliadwraeth ymwthiol, er enghraifft clustfeinio yng nghartref neu gar person.

Rydym yn ceisio casglu gwybodaeth yn ddiarwybod i dargedau ein hymchwil. Mae hyn er mwyn osgoi peryglu ein hymchwiliadau, ac hefyd i amddiffyn ein dulliau fel y gallwn eu defnyddio eto yn y dyfodol.

Beth sy’n digwydd i’r gwybodaeth sy’n cael ei gasglu

Os ydyw gwybodaeth yn werth ei gofnodi, rydym yn sicrhau y caiff hyn ei wneud yn gywir. Rydym yn nodi ei tharddiad a’i dilysrwydd, ac yn sicrhau gallwn ailafael ynddo’n gyflym. Os ydym yn asesu bod angen ymchwil pellach ar fygythiad penodol, byddwn yn darparu adnoddau i gasglu cudd-wybodaeth ychwanegol. Rydym yn adolygu ein asesiadau yn barhaol wrth i ni dderbyn pob eitem newydd o gudd-wybodaeth.


SUT GALLWCH CHI HELPU

Os oes gennych chi wybodaeth a all fod o fudd i’n gwaith, gadewch i ni wybod. Mi fydd esboniad o sut ddarganfyddoch chi’r wybodaeth o gymorth pellach i ni. Mi fyddwn yn trîn eich gwybodaeth ac unrhyw fanylion personol yn gyfrinachol.

Cysylltwch â ni