BYGYTHIADAU UNIONGYRCHOL I FYWYD NEU EIDDO

Os oes gennych wybodaeth am fygythiad uniongyrchol yn y dyfodol agos i fywyd neu eiddo, cysylltwch â’r heddlu ar 999 neu’r linell gymorth Gwrthderfysgaeth ar 0800 789 321.


PWYSIG

Mae materion troseddol yn cael eu hymchwilio gan yr heddlu. Nid asiantaeth deddforfodaeth ydym ni a gallwn ond ymchwilio bygythiadau amheus i ddiogelwch cenedlaethol. Os oes gennych wybodaeth am weithgaredd troseddol nad yw’n gysylltiedig â diogelwch cenedlaethol, cysylltwch â’ch heddlu lleol. 


BYGYTHIADAU A AMHEUIR I DDIOGELWCH CENEDLAETHOL

Os ydych yn gwybod rhywbeth am fygythiad i ddiogelwch cenedlaethol fel terfysgaeth neu ysbïwriaeth, rydym am glywed oddi wrthych.

Gallwch anfon gwybodaeth atom trwy ein ffurflen gyswllt. Byddwn yn trîn eich gwybodaeth ac unrhyw fanylion personol yn gyfrinachol oni bai eich bod yn dweud wrthym yn wahanol neu os oes angen eu rhannu â phartion priodol fel yr heddlu. Gallwch aros yn ddienw os dymunwch. Bydd eich neges yn cael ei ddanfon yn ddiogel. Byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth ar ôl danfon eich neges.

Bydd pob neges yn cael ei darllen. Fodd bynnag, ni allwn addo ymateb i bob un ohonynt.

Fel arall, gallwch gysylltu â ni dros y ffôn drwy:

  • Rhadffôn 0800 111 4645
  • 020 7930 9000 (cyfraddau galwadau safonol yn berthnasol)
  • +44 20 7930 9000 (galwyr rhyngwladol yn unig)  

Peidiwch â defnyddio’r rhifau ffôn yma ar gyfer gwneud ymholiadau am faterion cyffredinol neu faterion i recriwtio.

Neu gallwch ysgrifennu i’r cyfeiriad canlynol:

Y Ddesg Ymholiadau
PO BOX 3255
Llundain SW1P 1AE

Byddwch yn ymwybodol gall ohebiaeth ysgrifenedig a ddanfonwyd yn y DU gymryd hyd at wythnos i’n cyrraedd.

Bydd pob galwad a gohebiaeth yn cael eu trîn yn gyfrinachol (gweler ein polisi preifatrwydd).


MATERION RECRIWTIO

Os oes gennych ymholiad ynghylch gwneud cais am swydd gyda MI5, rydym yn awgrymu eich bod yn edrych yn gyntaf ar ein adran Gyrfaoedd a all ateb eich cwestiynau.

Os oes cwestiynau ganddoch o hyd ynglŷn â materion recriwtio, neu os ydych yn cael anhawsterau yn gweld eich cais ar-lein neu ceisio am swydd gyda MI5, cysylltwch â’r Swyddfa recriwtio drwy e-bost neu dros y ffôn:

Peidiwch a defnyddio’r ffurflen ymholiadau cyffredinol i wneud ymholiadau am y broses recriwtio neu eich cais – mae’r Swyddfa Recriwtio yn y sefyllfa orau i’ch helpu chi.

O ganlyniad i niferoedd yr ymholiadau yr ydym yn derbyn, nid ydym yn gallu derbyn gwahoddiadau i fynychu digwyddiadau gyrfaoedd neu i ddatblygu deunyddiau addysgol a gyflwynir drwy’r wefan. Byddwn yn hapus i ddanfon llenyddiaeth am recriwtio  i chi ar gyfer eich llyfrgelloedd gyrfaoedd yn lle hynny.


YMHOLIADAU GAN Y CYFRYNGAU

Nid oes gan MI5 swyddfa wasg.

Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau ac hoffech ofyn am faterion cudd-wybodaeth neu am MI5, cysylltwch â swyddfa wasg y Swyddfa Gartref.


YMHOLIADAU CYFFREDINOL AC ADBORTH

Os ydych yn dymuno rhoi adborth i ni neu os oes gennych ymholiad cyffredinol sydd heb gael ei ateb gan y wybodaeth ar y wefan hon, gallwch gysylltu â ni gan ddefnyddio’r ffurflen gyswllt.

Bydd pob neges yn cael ei ddarllen, er na allwn addo ymateb i bob un ohonynt. Hefyd, mae cyfyngiadau ar ba wybodaeth rydym yn gallu darparu, felly os ydym yn ymateb, mae’n bosibl na fyddwn yn gallu rhoi yr holl wybodaeth y gofynnoch chi am yn eich ymholiad.


CWYNION AM EIN GWEITHGAREDDAU

Os ydych yn dymuno gwneud cwyn am MI5, bydd y Tribiwnlys Pwerau Ymchwilio (TPY) yn gallu eich helpu chi.